Dyma fanc o 52 awr o segmentau o leferydd naturiol dros hanner cant o gyfranwyr ar ffurf ffeiliau mp3, ynghyd â thrawsgrifiadau 'verbatim' cyfatebol o’r lleferydd ar ffurf ffeil .tsv. Mae'r mwyafrif o'r lleferydd yn leferydd digymell, naturiol. Dosbarthwn y deunydd hwn o dan drwydded agored CC0.